collaborating partner

Partneriaid cydweithio

Mae ein partneriaid sy’n cydweithio yn arbenigwyr mewn adolygu tystiolaeth ymchwil, gwerthuso economaidd, asesu technolegau iechyd ac archwilio data mawr. Mae ein partneriaid cydweithredol yn cynnwys y canlynol:

 

Canolfan Economeg lechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME)

Sefydlwyd y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) yn 2001 ac mae’n rhan graidd o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Mae CHEME yn weithgar ar draws amrywiaeth o weithgareddau economeg iechyd a gwerthuso meddyginiaethau.

Meysydd Arbenigo 

  • Economeg iechyd llesiant a lles-dyfiant yn ystod cwrs bywyd Ewch i wefan CHEME i ddarllen bywgraffiadau’r tîm.
    Economeg iechyd cyhoeddus ac atal
  • Ffarmacoeconomeg 
  • Patient Reported Outcome Measures (PROMs)
  • Systematic review (SR) methodology

Cwrdd-â'r-Tim
Rhiannon Tudor Edwards
Dyfrig Hughes
Deborah Fitzsimmons
Bethany Fern Anthony
Sofie Angharad Roberts
Jacob Davies
Kalpa Pisavadia 

Ewch i wefan CHEME i ddarllen bywgraffiadau’r tîm.

Cydweithrediad Synthesis Tystiolaeth Caerdydd (CESC)

Mae CESC yn gydweithrediad rhwng yr Uned Arbenigol Tystiolaeth Adolygu (SURE) a Chanolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth (WCEBC). Ym mis Mawrth 2023, cafodd y ddwy uned ymchwil eu hintegreiddio i weithio mewn partneriaeth ar gyfer Rhaglen Waith Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu

Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu (SURE), sefydlwyd yn 2000 ac mae ganddo le unigryw yng ngwasanaethau llyfrgell Prifysgol Caerdydd. Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr gwybodaeth ac adolygwyr systematig profiadol. Maent yn cynnal adolygiadau systematig ac adolygiadau o lenyddiaeth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, yn ymchwilio i arloesi methodolegol ac yn darparu gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi.

Meysydd Arbenigo

  • Dylunio a gweithredu chwiliadau uwch Profiad o gynnal pob ffurf ar adolygiadau systematig ac adolygiadau o lenyddiaeth
  • Cyfuno tystiolaeth, arfarnu beirniadol a defnyddio GRADE
  • Defnyddio dull cloddio testun i wneud adolygiadau’n fwy effeithlon

Cwrdd-â'r-Tim
Mala Mann
Meg Kiseleva
Juliet Hounsome

Ewch i wefan SURE i ddarllen bywgraffiadau’r tîm.

Canolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru

Sefydlwyd Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth (WCEBC) yn 2006 fel Canolfan Rhagoriaeth JBI. Maent yn hybu arfer
seiliedig ar dystiolaeth trwy ddatblygu a gwerthuso systemau rhagorol yn rhyngwladol ar gyfer arfarnu tystiolaeth, ei throsi a’i rhoi ar waith.
Mae’r grŵp yn cynnwys arbenigwyr gwybodaeth a methodolegau adolygu systematig.

Meysydd Arbenigo 

  • Pynciau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Profiad o amrywiaeth eang o fathau o gyfuno tystiolaeth
  • Defnyddio offerynnau JBI ar gyfer gwerthuso, gweithredu a rheoli ansawdd, a defnyddio dull GRADE o weithredu
     

Cwrdd-â'r-Tim
Deborah Edwards
Elizabeth Gillen
Judit Csontos

Gwasanaeth Tystiolaeth lechyd Cyhoeddus Cymru

Sefydlwyd Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2014 i helpu i sicrhau bod tystiolaeth ymchwil o ansawdd da wrth gallon penderfyniadau ynglŷn ag iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r tîm yn cynnwys adolygwyr systematig ac arbenigwyr gwybodaeth profiadol.

Meysydd Arbenigo

  • Ehangder llawn yr agenda iechyd cyhoeddus
  • Profiad o amrywiaeth eang o ddulliau cyfuno tystiolaeth, gan gynnwys: mapio tystiolaeth,adolygiadau cyflym ac adolygiadau systematig

Cwrdd-â'r-Tim
Hannah Shaw
Kirsty Little
Chukwudi Okolie 
Alesha Wale
Jordan Everitt
Toby Ayres
Helen Morgan

Gwyddor Data Poblogaeth

Mae’r tîm Gwyddor Data Poblogaeth (PDS) ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnal ymchwil o’r radd flaenaf gan ddefnyddio’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ac ym maes mwyfwy pwysig gwyddor data poblogaeth. 

Meysydd Arbenigo

  • Astudiaethau ar raddfa fawr
  • Cyfuno tystiolaeth gymhleth
  • Gwerthuso polisi
  • Ymchwil fethodolegol
  • Curaduro a rheoli data ar raddfa’r boblogaeth a’u dadansoddi
  • Asesu technoleg iechyd
     

Cwrdd-â'r-Tim
Rhiannon Owen
Ashley Akbari
Rowena Bailey
Athena Sheppard
Helen Daniel
Sophie Lacey

Ewch i wefan PDS i ddarllen bywgraffiadau’r tîm.

Sefydliad Ymchwil lechyd a Meddygol Bangor (BIHMR)

Mae Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR), yn dod ag ymchwilwyr sy’n arbenigo mewn economeg iechyd cyhoeddus ac atal ynghyd, ac mae’n cydweithredu ag Economeg Iechyd a Gofal Cymru.

Meysydd Arbenigo

  • Economeg iechyd cyhoeddus ac atal
  • Ffarmacoeconomeg 
  • Patient Reported Outcome Measures (PROMs)
  • Systematic review (SR) methodology

Cwrdd-â'r-Tim
Rhiannon Tudor Edwards
Dyfrig Hughes
Deborah Fitzsimmons
Jane Noyes
Bethany Fern Anthony
Sofie Angharad Roberts
Jacob Davies
Kalpa Pisavadia

Ewch i wefan BIHMR i ddarllen bywgraffiadau’r tîm.

Technoleg lechyd Cymru

Iechyd Cymru (HTW), sy’n ymgymryd ag arfarniadau technolegol o dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn cynnwys meddyginiaeth a modelau gofal a chefnogaeth. Mae’n cynnwys grŵp amlddisgyblaeth o ymchwilwyr, economegwyr iechyd a’r rheini sy’n arbenigo mewn gwybodaeth.

Meysydd Arbenigo

  • Asesu Technoleg Iechyd
  • Adolygiadau tystiolaeth systematig a chyflym o ddulliau meintiol neu ansoddol
  • Gwerthuso economaidd
  • Gwyddor gwybodaeth ac adalw gwybodaeth

Cwrdd-â'r-Tim
Susan Myles
David Jarrom
Nathan Bromham
Leona Batten  
Clare England
Jessica Williams
Antonia Needham
Charlotte Bowles

Ewch i wefan HTW i ddarllen bywgraffiadau’r tîm.