Adolygiad cyflym o’r nodweddion a’r canlyniadau i blant sy'n rhan o achosion cyfraith breifat teuluoedd pan fo rhieni’n gwahanu

Cefndir a Chyd-destun

Fel arfer, mae achosion cyfreithiol preifat sy’n cynnwys plant yn cyfeirio at anghydfodau yn y llys rhwng rhieni sydd wedi gwahanu, ac yn anghytuno o ran trefniadau’n ymwneud â’r plentyn. Maen nhw’n gofyn i’r llys benderfynu gyda phwy y dylai’r plentyn fyw a threulio amser gyda nhw. Gall y plant sy’n rhan o achosion cyfreithiol preifat fod yn agored i niwed, ac yn aml maent yn cael eu hanghofio wrth greu polisi. Felly, mae'n bwysig tynnu sylw at eu profiadau, eu nodweddion a’u hanghenion o ran gofal.

Nodau

Bwriad yr adolygiad hwn oedd ystyried lles, nodweddion a chanlyniadau plant mewn achosion o gyfraith deuluol breifat.

Dulliau

Cafodd 22 astudiaeth eu defnyddio (a gafodd eu hadrodd mewn 25 o ddogfennau gwahanol) o ystod o wledydd â systemau llys tebyg yn yr adolygiad hwn. Nodwyd nodweddion a chanlyniadau plant oedd yn rhan o achosion cyfreithiol preifat. Cafodd adroddiadau ysgrifenedig o brofiadau plant o'r fath eu cynnwys hefyd.

Canlyniadau

Roedd bron pob astudiaeth yn mynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles plant sy'n rhan o achosion cyfraith breifat. Dangosodd y canlyniadau brofiadau plant o orbryder, iselder, dicter, anhwylderau bwyta, 
anhwylder straen ôl-drawmatig, hunan-niweidio ac mewn rhai achosion, ceisio lladd eu hunain. Nid oedd yn glir a oedd y profiadau hyn yn gysylltiedig â’r rhieni yn gwahanu, achosion llys, gorchmynion llys neu ffactorau eraill.

Nododd rhai astudiaethau ffactorau ychwanegol oedd o bosib wedi cael eu heffeithio, gan gynnwys y canlynol: ymddygiad heriol, datblygiad plant, perthnasau gyda ffrindiau ac aelodau o’r teulu, gwaith ysgol a niwed i iechyd corfforol a diogelwch y plant. Soniodd rhai am brofiadau gwahanol o ran cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl.

Goblygiadau o ran polisïau ac arferion

Mae'r adolygiad hwn yn dangos bod plant sy’n rhan o achosion cyfraith breifat mewn perygl o ddioddef cryn dipyn o ofid. Mae canfyddiadau'r adolygiad hwn hefyd yn awgrymu bod angen ymateb ar sail iechyd cyhoeddus i adnabod plant sy’n agored i niwed a chynnig cymorth amserol iddyn nhw.

Mae angen ymchwil bellach i ddeall anghenion cymorth penodol plant sy’n rhan o achosion cyfraith breifat o’i gymharu â phlant y mae eu rhieni wedi gwahanu ond nad oedd wedi defnyddio llysoedd. Yn ogystal, dylid archwilio canlyniadau tymor byr a hirdymor plant sy’n rhan o achosion cyfraith breifat, er mwyn deall sut y gall eu hanghenion o ran cymorth newid dros amser.

Awdur: Olivia Gallen, Aelod o Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus y Ganolfan Dystiolaeth (PPG)

Adroddiad Llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR0034