
Digwyddiad Lansio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
1 Mehefin
Tystiolaeth drylwyr, gyflym a pherthnasol i ddarparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau iechyd a gofal yng Nghymru
Lansiwyd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar 28 Mawrth 2023 gan Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.Bydd y Ganolfan newydd yn rhoi tystiolaeth ymchwil hanfodol i Weinidogion a llunwyr penderfyniadau eraill i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n wynebu Cymru.
Gyda ffocws ar fynd i’r afael ag ystod eang o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, bydd y yn helpu i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yng Nghymru yn tynnu ar ganfyddiadau’r ymchwil mwyaf diweddar a thrylwyr.
Ail-edrych ar ein digwyddiad lansio:
Anerchiad Agoriadol, Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lansio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Newydd, Yr Athro Adrian Edwards,Cyfarwyddwr, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cyfarfod â’n Timau Ymchwil, Dr Ruth Lewis, Cyfarwyddwr Cyswllt, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Strategaeth Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus (PPG), Dr Denitza Williams, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd ar y Cyd, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru